
.png)
Croeso i Cynefin Môn
Croeso i Cynefin Môn — arbenigwyr dibynadwy sy’n cynnal a chadw cartrefi gwyliau ar draws Ynys Môn. Rydym yn darparu gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy, sydd wedi’i deilwra i gadw eich cartref gwyliau mewn cyflwr rhagorol drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn falch o gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel am bris fforddiadwy.
P’un ai ydych chi eisiau cael rhywun i gwblhau gwaith atgyweirio i gartref gwyliau ar Ynys Môn, eisiau darganfod gweithwyr medrus dibynadwy yn lleol, neu’n dymuno cyflogi rhywun i ofalu am eich eiddo’n barhaol, rydym yn gofalu am bopeth — gan gynnwys dod o hyd i gontractwyr ag enw da, trefnu dyfynbrisiau teg, a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau’n ddiogel ac yn broffesiynol, gan sicrhau profiad di-drafferth, cost-effeithlon i chi.
EIN GWASANAETHAU
Mae Cynefin Môn yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i gadw eich cartref gwyliau ar Ynys Môn mewn cyflwr perffaith, yn barod i groesawu gwesteion drwy gydol y flwyddyn. Os oes angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar eich cartref gwyliau neu atgyweiriadau untro arno, yna gallwn ni eich helpu gyda:

Amdanom ni
Mae gan Cynefin Môn gysylltiadau cryf gydag amrywiaeth o gwmnïau adeiladu, gweithwyr medrus a chyflenwyr ar draws Ynys Môn. Wedi ein lleoli'n ganolog ar yr ynys gyda mynediad hwylus i drafnidiaeth, rydym yn darparu gwasanaeth croesawgar yn Gymraeg a Saesneg.
Ar gyfer prosiectau mwy fel addasiadau neu estyniadau i adeiladau, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth rheoli prosiectau cynhwysfawr. O’r cynllunio cychwynnol i’r gwaith terfynol, gallwn helpu i logi penseiri, hwyluso dyluniadau, sicrhau caniatâd cynllunio angenrheidiol, dewis contractwyr, rheoli taliadau, a goruchwylio'r broses gyfan ar eich rhan.
Rydym yn blaenoriaethu eich anghenion ac yn cynnig cyngor a chymorth gwerthfawr. Gan gydnabod pwysigrwydd eich cartref gwyliau i chi, rydym wastad yn cymryd y gofal mwyaf wrth gwblhau gwaith cynnal a chadw. Byddwn yn defnyddio cynfasau llwch a sicrhau glanhau trylwyr ar ôl cwblhau, gan fod rhoi sylw i fanylion o'r fath yn bwysig iawn i ni.
CWSMERIAID HAPUS
“Mi wnaeth Cynefin Môn waith ardderchog o ailaddurno'r stafell fyw. Roedd eu gwaith yn eithriadol o dda, yn enwedig un wal a gafodd ei phapuro, a hynny i safon uchel iawn. Roedden nhw’n cwblhau’r gwaith yn brydlon ac yn cymryd gofal i lanhau ar ôl iddyn nhw orffen. Mi fyddwn i’n bendant yn eu defnyddio eto yn y dyfodol.”
Gwenno, Bodorgan
“Roedd y crefftwaith yn rhagorol gyda sylw manwl yn cael ei roi i bopeth. O gynnal a chadw'r ardd i addurno'r ystafelloedd gwely, cafodd y cyfan ei wneud am bris rhesymol iawn. Fe wnaethon nhw dynnu’r straen a'r drafferth oddi arnaf i a fy sbario rhag gorfod gwneud y gwaith fy hun. Gan eu bod yn aml-sgiliol, nid oedd angen i mi ddelio â llu o wahanol weithwyr, gan arbed amser ac arian i mi.”
Molly, Llangristiolus

