.jpg)
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
.jpg)

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ynghylch y Gwasanaethau a Gynigir gan Cynefin Môn
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
1. Pa fath o wasanaethau cynnal a chadw tai gwyliau ydych chi’n eu cynnig?
Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys peintio ac addurno, garddio, glanhau allanol, atgyweiriadau o gwmpas y tŷ, glanhau â Pressure Washer, adfer tarmac, chwynnu, gosod dodrefn ‘pecynnu fflat’ at ei gilydd, glanhau ffenestri, estyll tywydd ac unrhyw blastigion uPVC allanol, mân-dasgau trydanol a phlymio, archwiliadau ar eiddo ac adroddiadau cynhwysfawr ar eu cyflwr a chyngor ar ddraeniau ac amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd.
2. A allwch chi helpu gyda phrosiectau mwy fel estyniadau ac adnewyddiadau?
Gallwn! Yn ogystal ag atgyweiriadau dydd i ddydd, rydym ni’n cynnig gwasanaeth rheoli cynhwysfawr ar gyfer prosiectau fel estyniadau ac adnewyddiadau, gan gynnwys gwaith cynllunio, creu dyluniadau, cymorth â chaniatâd cynllunio, dewis contractwyr, goruchwylio taliadau a chwblhau gwaith adeiladu terfynol.
3. Sut ydych chi’n sicrhau fod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ddiogel ac i safon uchel?
Mae gennym ni weithwyr hyfforddedig a chymwysedig, sydd â phrofiad ym mhob maes. Rydym yn cyfrifo dyfynbrisiau cystadleuol, ac yn goruchwylio’r holl i waith i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau mewn modd broffesiynol a diogel. Rydym hefyd yn defnyddio cynfasau llwch, gan sicrhau glanweithdra ac yn cyfathrebu’n glir gyda chi fel cleient.
4. Ydych chi’n darparu gwasanaeth dwyieithog?
Ydym, rydym ni’n darparu gwasanaeth cyfeillgar, dwyieithog.
5. Sut ydw i’n gofyn am ddyfynbris neu’n archebu gwasanaeth?
Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy ein gwefan i ofyn am ddyfynbris neu i archebu unrhyw un o’n gwasanaethau.Cysylltwn â chi i drefnu amser cyfleus i asesu’ch eiddo a darparu dyfynbris teg am ddim. Gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â ni ar 07359 838426.
6. Ydych chi’n ymgymryd â chontractau cynnal a chadw parhaus yn ogystal ag atgyweiriadau untro?
Rydym ni’n ymgymryd â chontractau cynnal a chadw parhaus i sicrhau fod eich tŷ gwyliau yn barod ar gyfer gwesteion trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag atgyweiriadau untro ar gyfer problemau penodol.
7. Beth sy’n gwneud Cynefin Môn yn wahanol i gwmnïau eraill sy’n cynnal a chadw tai?
Rydym yn trin pob tŷ gwyliau gyda’r gofal mwyaf, gan ddarparu gwasanaeth dibynadwy a chyfeillgar, ac ymdrechu i gyfathrebu’n glir gyda chi fel cleient bob tro. Ein cysylltiadau lleol rhagorol a’n hymroddiad i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf sy’n ein gwneud ni’n arbennig.